Croeso i Ysgol Gynradd Llanrug

Golau Dysg - Golud Ysgol

Mae ein arwyddair ‘Golau dysg - golud ysgol’ wedi ei ysbrydoli gan y goleuni a ddaw o’r gannwyll yn logo’r ysgol, mae’n sail i bopeth a wnawn yn yr ysgol ac mae’n treiddio trwy bopeth. Mae’n cyfleu ac yn pwysleisio pwysigrwydd dysgu. Mae’n cyfleu ethos a diwylliant ein hysgol, yr elfen o fwynhau dysgu ac addysgu a dysgu effeithiol. Mae awyrgylch groesawgar a gweithgar yr ysgol yn adlewyrchiad o’n gweledigaeth. Ceir amgylchfyd ysgogol a diogel lle gall ein dysgwyr ddatblygu’n llawn ac aeddfedu i ddod yn unigolion hyderus, yn ymwybodol o les eu hunain ac eraill ac yn aelod cyfrifol o’r gymdeithas. Amcanwn at fagu ymdeimlad o falchder yn y plentyn, yr ysgol ar gymuned.

Mawr obeithiwn y byddwch yn gweld ein gwefan yn ddefnyddiol.

Yr Ysgol

Tim peldroed Ysgol Llanrug
Dydd Miwsig Cymru yn Ysgol Llanrug
Disco tu allan yn Ysgol Llanrug